Ydych chi'n chwilio am
ddeintydd newydd yng Nghaergybi?

P’un a ydych chi’n chwilio am ddeintydd rheolaidd newydd, triniaeth orthodontig, neu drawsnewid eich gwên, mae gennym yr arbenigedd i helpu a byddem wrth ein bodd yn eich gweld!

1

Llenwch y ffurflen gofrestru

Fel claf newydd i’n practis, mae angen i ni gasglu cymaint o wybodaeth amdanoch â phosib fel y gallwn ddarparu’r gofal gorau. Gallwch ddod o hyd i’r ffurflen yma.

2

Mynd i'ch ymgynghoriad cyntaf

Mae pob claf newydd a welwn yn dechrau gydag ymgynghoriad claf newydd. Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau i chi am eich iechyd cyffredinol a deintyddol ac yn rhoi cyfle i chi esbonio i ni unrhyw beth a allai fod yn peri pryder i chi.

Byddwn yn cynnal asesiad o’ch dannedd, a byddwn hefyd yn gallu dangos delweddau o’ch ceg i chi gan ddefnyddio delweddau Pelydr X. Pris ein hymgynghoriad ar gyfer cleifion newydd yw £102.

3

Cewch gynllun triniaeth unigryw

Byddwn yn esbonio’r holl ddewisiadau posib ac yn rhoi gwybod i chi am yr holl ddewisiadau sydd ar gael a’r costau tebygol cyn symud ymlaen.

4

Dechrau triniaeth

Diolch i chi am ein hystyried ni i helpu gyda’ch gofal deintyddol. Rydym yn ymfalchïo mewn gwneud deintyddiaeth yn brofiad dymunol i’n cleifion ac mae ein tîm cyfan wedi ymrwymo i ddarparu gofal deintyddol o ansawdd uchel i chi.

Beth allwch chi ei ddisgwyl gan Deintyddfa Cybi Dental

Rydym yn ymdrechu i gynnig y gofal, ansawdd a gwasanaeth cwsmeriaid gorau posib. Bydd ein tîm cyfeillgar bob amser yno i ateb unrhyw gwestiwn sydd gennych chi.

Mae gennym amrywiaeth eang o gymwysterau, gan gynnwys endodonteg, estheteg ac orthodonteg, felly cysylltwch â ni i weld sut gallwn ni eich helpu chi.

Ein gwasanaethau

Beth nesaf?

Y cyfan sydd angen chi ei wneud ydy cysylltu â’r practis. Ffoniwch ni ar 01407 763399 neu defnyddiwch y ddolen isod.
Dental exam on a woman's teeth with a mirror

Oes gennych chi gwestiynau am ddod yn un o'n cleifion?

Rydych chi a’ch anghenion yn unigryw, felly bydd eich deintydd yn eich cynghori beth sydd orau i chi. Mae angen i rai pobl fynd i weld deintydd unwaith neu ddwywaith y flwyddyn, ac mae angen i eraill fynd yn amlach.

Mae apwyntiadau deintydd rheolaidd yn gallu helpu i atal problemau’r geg rhag datblygu yn y lle cyntaf. Os byddant yn codi, mae apwyntiadau rheolaidd yn gallu helpu i ddod o hyd iddynt yn gynnar, sy’n golygu y bydd hi’n haws eu trin.

Rydyn ni’n trin cleifion nerfus yn Neintyddfa Cybi yn aml, a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu i leddfu eich pryderon. Fyddwn ni ddim yn gwneud unrhyw beth nad ydych chi am i ni ei wneud. Chi sy’n rheoli pethau bob cam o’r ffordd!

Yn ogystal â helpu i gynnal dannedd a deintgig iach, mae mynd i weld y glanweithydd yn gwella iechyd cyffredinol ac yn lleihau’r tebygolrwydd o glefyd y galon.

Yn eich ymweliad cyntaf, bydd eich deintydd yn cymryd eich manylion personol a hanes meddygol llawn i wneud yn siŵr ei fod yn gallu eich trin yn ddiogel. Bydd wedyn yn eich archwilio’n llawn i asesu hylendid cyffredinol eich ceg ac efallai y bydd yn gwneud sganiau pelydr-x diagnostig hefyd. Os oes angen triniaeth ddeintyddol arnoch chi, bydd eich deintydd yn trafod hyn gyda chi, yn ogystal â’ch cynllun triniaeth a’r costau.

Y cyfan sydd angen chi ei wneud ydy cysylltu â’r practis. Ffoniwch ni ar 01407 763399, defnyddio’r ffurflen gofrestru, neu daro heibio’r practis. Byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi!

Rydyn ni’n gwneud ein gorau i gynnig apwyntiadau brys. Cysylltwch â ni am fanylion.

Gallwch! Does dim angen atgyfeiriad gan eich deintydd i weld glanweithydd. Cofiwch barhau i fynd i weld eich deintydd am apwyntiadau rheolaidd hefyd.

Rydyn ni’n falch o gynnig cynlluniau talu drwy Denplan, sef y ffordd orau o wneud triniaeth ddeintyddol yn fforddiadwy yn ein barn ni. Cysylltwch i drafod hyn gyda ni.

Dylech ganiatáu tua awr er mwyn i ni allu cynnal archwiliad llawn, trafod eich pryderon, a thrafod eich cynllun triniaeth os yw hynny’n berthnasol.

Os nad ydych chi’n gallu dod i’ch apwyntiad, gofynnwn i chi ffonio’r practis o leiaf un diwrnod gwaith llawn ymlaen llaw er mwyn i ni allu cynnig eich slot amser i glaf arall.

Apwyntiadau gyda’r glanweithydd
Bydd cleifion sy’n trefnu apwyntiad gyda’r glanweithydd yn talu ffi cadw lle o 50%. Os byddwch yn methu neu’n canslo apwyntiad gyda’r glanweithydd ar fyr rybudd (llai nag un diwrnod gwaith llawn), byddwch yn colli’r taliad hwn a bydd angen talu ffi newydd cyn gallu trefnu apwyntiad newydd.

Ni fydd cleifion ar gynllun sy’n methu un apwyntiad gyda’r glanweithydd yn gorfod talu ffi; bydd unrhyw apwyntiadau dilynol sy’n cael eu methu yn arwain at orfod talu hanner ffi’r glanweithydd.

Apwyntiadau gyda’r deintydd
Os bydd claf yn methu apwyntiad gyda’r deintydd ar ôl rhybudd, codir tâl ar y claf a fydd yn gymesur â hyd yr apwyntiad ac unrhyw ffioedd labordy sydd wedi codi. Rydyn ni’n cadw’r hawl i ofyn am flaendal ar gyfer apwyntiadau gyda’r deintydd, a fydd yn cael ei golli os byddwch yn methu’r apwyntiad fel yr amlinellir uchod. Os caiff mwy na dau apwyntiad eu methu, efallai na fyddwn yn cynnig apwyntiadau yn y dyfodol.

Mae gwynnu dannedd yn gallu bod yn ateb gwych i wella eich gwên. Byddwn bob amser yn gwneud yn siŵr bod eich dannedd yn addas, oherwydd efallai na fyddwn yn ei argymell os oes gennych chi sensitifrwydd uchel. Bydd eich deintydd yn gallu trafod eich dewisiadau gyda chi.

Bydd eich deintydd yn gwneud mowldin o’ch dannedd a fydd yn cael ei anfon i ffwrdd i greu eich gorchudd dannedd. Byddwn yn rhoi gel gwynnu i chi a fydd yn cael ei roi rhwng eich dannedd a’r gorchudd. Pan fydd y gel yn cael ei roi ar y dannedd, mae’n torri moleciwlau staen i lawr, sy’n gwneud i ddannedd golli eu lliw.

Mae angen triniaeth sianel y gwreiddyn pan fydd sganiau pelydr-x yn dangos bod y bywyn wedi cael ei ddifrodi gan haint bacterol. Nid oes modd trin yr heintiau hyn gyda gwrthfiotigau. Mae modd defnyddio triniaeth sianel y gwreiddyn fel ffordd o osgoi tynnu dannedd.