Archwilio'r practis
Practis deintyddol sydd wedi hen ennill ei blwyf yng nghanol Caergybi.
Croeso i'r practis deintyddol hynaf yng Nghaergybi
Mae’r practis yn un o gonglfeini’r dref ers yr 1950au. Ers hynny, dim ond ambell waith mae wedi newid dwylo, ac roedd y perchennog ar hyn o bryd, Mr Gruffydd Iolo Jones, wedi dod i hyfforddi a gweithio o dan y perchennog blaenorol.
Nod y perchnogion presennol yw cadw at egwyddorion y gorffennol bob tro, sef cynnig y lefel orau o ofal deintyddol i bobl Caergybi, Môn a Gwynedd.
Gan ganolbwyntio ar y nod hon, rydyn ni wedi mynd ati i ddatblygu set sgiliau’r tîm gan ychwanegu deintyddion, glanweithwyr, therapyddion a nyrsys at ein tîm heddiw, gan wneud yn siŵr bod ein cleifion yn cael y driniaeth orau bosib ar gyfer eu gofynion.


Ein nodau yn y practis yw:
- Hybu iechyd y geg i bob claf
- Darparu gofal deintyddol o ansawdd uchel, gan gynnwys archwiliadau a thriniaethau pan fo angen
- Cynnwys ein cleifion yn llawn mewn penderfyniadau am eu gofal, a’u hannog i gyfrannu’n llawn
- Cynnwys gweithwyr proffesiynol eraill yng ngofal ein cleifion pan fydd hynny er budd y claf, ee atgyfeirio ar gyfer gofal a chyngor arbenigol
- Gwneud yn siŵr bod holl aelodau ein tîm yn meddu ar y sgiliau a’r hyfforddiant iawn i gyflawni eu dyletswyddau’n gymwys, a’u diweddaru’n rheolaidd
- Sicrhau ymwybyddiaeth o’r canllawiau cenedlaethol cyfredol sy’n effeithio ar y ffordd rydyn ni’n gofalu am ein cleifion
Dyma beth sydd gan rai o'n cleifion bodlon ei ddweud
"Fel bob tro, roedd fy ymweliad yn un cyfeillgar, hwyliog a phroffesiynol. Dwi erioed wedi cael dannedd mor wyn ac mae'r broses gyfan yn gwbl ddi-boen ac yn gyflym iawn"
"Mae Louise wedi fy nhrin ers nifer o flynyddoedd. Mae ganddi hi amynedd ac mae'n rhoi gwybod i fi beth fydd hi'n ei wneud, ac yn gwneud yn siŵr fy mod yn gyfforddus"
"Dwi wedi cael fy ngwên yn ôl gyda dannedd gosod sy'n edrych ac yn teimlo'n naturiol, sy'n bwysig iawn i ddynes fy oed i"
"Mae'r glanweithydd wedi fy nysgu sut mae gofalu am fy nannedd er mwyn i fi wneud cyn lleied o niwed â phosib iddyn nhw. Mae hyn wedi bod yn help mawr"
"Mae Aaron wir wedi newid fy ngwên ac wedi rhoi hyder newydd i fi"
"Ers y foment 'nes i ddechrau defnyddio eich gwasanaeth, dwi'n teimlo eich bod yn fy neall i ac rydw i wedi cael lefel o wasanaeth dwi erioed wedi ei chael o'r blaen. Dwi rŵan yn 60 oed ac yn gallu gwenu'n hapus"
"Doeddwn i erioed wedi defnyddio deintydd preifat o'r blaen, ac a dweud y gwir doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn wahanol, ond roedd y gost yn rhesymol ac mae'r gwasanaeth yn mynd yr ail filltir go iawn"
Barod?
