Deintyddfa ataliol

Yma ym mhractis Deintyddfa Cybi, rydyn ni’n canolbwyntio ar helpu i gadw’ch ceg yn iach.

Atal problemau cyn iddyn nhw godi

Mae ymweld â’r deintydd yn rheolaidd yn gallu helpu i leihau’r angen am driniaethau yn y dyfodol.

Rydyn ni wedi hyfforddi aelodau o’r tîm sy’n canolbwyntio ar roi arweiniad ar hylendid y geg, gan amrywio o ofal i oedolion, plant a babanod.

Mae’r aelodau hyn o’r staff yn gallu rhoi cyngor ac awgrymiadau i chi, er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cadw’ch ceg yn iach ac yn cael y gofal gorau.

Electric toothbrush

Eich apwyntiadau rheolaidd

Rydyn ni’n asesu iechyd eich ceg ac yn edrych am unrhyw ddirywiad neu welliant ers eich ymweliad diwethaf. Mae pob apwyntiad rheolaidd yn cynnwys:

  • Edrych am bydredd dannedd
  • Gwneud yn siŵr nad oes gennych chi glefyd y deintgig
  • Gwneud yn siŵr nad oes gennych chi ganser y geg
  • Pelydr-X deintyddol pan fo angen
  • Cyngor ar roi’r gorau i ysmygu os oes angen
  • Cynllunio triniaethau

Ymweld â'n glanweithydd

Ffoniwch ni ar 01407 763399 neu ddefnyddio’r ddolen isod.

Woman having dental exam