Ein gwasanaethau
Ein nod yw parhau i roi’r gofal gorau posib i’n cleifion drwy sgiliau ein tîm, sydd wedi’u hyfforddi i safon uchel, gan wneud yn siŵr eich bod yn cael y lefel orau o ofal drwy gydol eich triniaeth.

Orthodonteg C-fast
Ystyr Cfast yw ‘Cosmetically Focused Adult Straight Teeth’, ac mae’n ateb gwych i drwsio aliniad y chwe dant blaen yn eich gên uchaf ac isaf.
O’i gymharu ag atebion orthodonteg eraill, dyma ddewis syml a diffwdan lle rydyn ni’n gosod bracedi wedi’u llunio’n bwrpasol ar eich dannedd ac yna’n gosod weiren i alinio eich dannedd yn ysgafn. Mae’n defnyddio bracedi orthodonteg clir a weiren nicel-titaniwm lliw dannedd, gan ei wneud yn ddewis cynnil.
Boutique Whitening
Y profiad gwynnu dannedd proffesiynol mwyaf effeithiol a chyfforddus sydd ar gael. Mae’r fformiwla cryfder uchel yn ddiogel, yn hawdd ei ddefnyddio, ac yn addo canlyniadau trawiadol mewn dwy i dair wythnos.
- Bydd eich deintydd yn gwneud mowldiau o’ch dannedd ar gyfer eich pecyn gwynnu pwrpasol
- Bydd eich mowldin yn cael ei anfon i ffwrdd a bydd technegwyr yn mynd ati’n fanwl i greu pecyn gwynnu sy’n ffitio eich ceg yn union
- Casglwch eich pecyn gan y deintydd a dechrau ei ddefnyddio gartref gyda’r gel gwynnu
- Bydd gennych chi wên fwy gwyn mewn dwy neu dair wythnos!
EMS Airflow®
Mae Air Flow yn defnyddio chwistrelliad mân o ddwr cynnes a phowdr Erythritol PLUS i lanhau wyneb y dannedd yn drylwyr uwchben ac o dan linell y deintgig.
Mae’n tynnu plac ac yn helpu i atal cyflyrau fel llid y deintgig, clefyd periodontol a cholli dannedd, ac yn gadael wyneb eich dannedd yn ffres ac yn llyfn!
Endodonteg Endomôn
Mae Dr Ruth Williams yn Endomôn yn darparu pob math o driniaethau sianel y gwreiddyn. Mae’n ddeintydd medrus sydd wedi ymrwymo i helpu pobl i achub eu gwên a pheidio â gorfod tynnu dannedd.
Mae triniaeth sianel y gwreiddyn yn cael ei defnyddio i drin haint yng nghanol daint. Mae’r driniaeth yn cael ei gwneud o dan anaesthetig lleol fel arfer, sy’n golygu y dylai fod yn ddiboen ac yn ddim gwaeth na chael llenwad.
Yn ystod eich apwyntiad asesu, bydd Ruth yn esbonio’r driniaeth i chi a chewch gyfle i ofyn unrhyw gwestiynau.
EMS Airflow® gyda gwynnu ar unwaith
Mae hyn yn gwella disgleirdeb dannedd yn sylweddol, gan roi ceg befriog ac iach i chi.
Mae’n defnyddio’r un driniaeth ag EMS Airflow ® uchod, ond byddwch hefyd yn gadael gyda dannedd sy’n fwy gwyn yn syth.
Cwestiynau cyffredin
Pa mor aml dylwn i fynd i weld deintydd?
Rydych chi a’ch anghenion yn unigryw, felly bydd eich deintydd yn eich cynghori beth sydd orau i chi. Mae angen i rai pobl fynd i weld deintydd unwaith neu ddwywaith y flwyddyn, ac mae angen i eraill fynd yn amlach.
Pam mae'n bwysig mynd i weld deintydd yn rheolaidd?
Mae apwyntiadau deintydd rheolaidd yn gallu helpu i atal problemau’r geg rhag datblygu yn y lle cyntaf. Os byddant yn codi, mae apwyntiadau rheolaidd yn gallu helpu i ddod o hyd iddynt yn gynnar, sy’n golygu y bydd hi’n haws eu trin.
Dwi'n glaf nerfus. Sut gallwch chi fy helpu i?
Rydyn ni’n trin cleifion nerfus yn Neintyddfa Cybi yn aml, a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu i leddfu eich pryderon. Fyddwn ni ddim yn gwneud unrhyw beth nad ydych chi am i ni ei wneud. Chi sy’n rheoli pethau bob cam o’r ffordd!
Beth yw manteision mynd i weld glanweithydd?
Yn ogystal â helpu i gynnal dannedd a deintgig iach, mae mynd i weld y glanweithydd yn gwella iechyd cyffredinol ac yn lleihau’r tebygolrwydd o glefyd y galon.
Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn gweld deintydd am y tro cyntaf?
Yn eich ymweliad cyntaf, bydd eich deintydd yn cymryd eich manylion personol a hanes meddygol llawn i wneud yn siŵr ei fod yn gallu eich trin yn ddiogel. Bydd wedyn yn eich archwilio’n llawn i asesu hylendid cyffredinol eich ceg ac efallai y bydd yn gwneud sganiau pelydr-x diagnostig hefyd. Os oes angen triniaeth ddeintyddol arnoch chi, bydd eich deintydd yn trafod hyn gyda chi, yn ogystal â’ch cynllun triniaeth a’r costau.
Sut ydw i'n trefnu apwyntiad?
Y cyfan sydd angen chi ei wneud ydy cysylltu â’r practis. Ffoniwch ni ar 01407 763399, defnyddio’r ffurflen gofrestru, neu daro heibio’r practis. Byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi!
Alla i gael apwyntiad brys?
Rydyn ni’n gwneud ein gorau i gynnig apwyntiadau brys. Cysylltwch â ni am fanylion.
Alla i fynd i weld y glanweithydd yn unig?
Gallwch! Does dim angen atgyfeiriad gan eich deintydd i weld glanweithydd. Cofiwch barhau i fynd i weld eich deintydd am apwyntiadau rheolaidd hefyd.
Alla i rannu cost fy nhriniaeth?
Rydyn ni’n falch o gynnig cynlluniau talu drwy Denplan, sef y ffordd orau o wneud triniaeth ddeintyddol yn fforddiadwy yn ein barn ni. Cysylltwch i drafod hyn gyda ni.
Pa mor hir fydd fy apwyntiad deintyddol cyntaf yn para?
Dylech ganiatáu tua awr er mwyn i ni allu cynnal archwiliad llawn, trafod eich pryderon, a thrafod eich cynllun triniaeth os yw hynny’n berthnasol.
Ydych chi'n codi tâl os ydw i'n methu neu'n canslo apwyntiad?
Os nad ydych chi’n gallu dod i’ch apwyntiad, gofynnwn i chi ffonio’r practis o leiaf un diwrnod gwaith llawn ymlaen llaw er mwyn i ni allu cynnig eich slot amser i glaf arall.
Apwyntiadau gyda’r glanweithydd
Bydd cleifion sy’n trefnu apwyntiad gyda’r glanweithydd yn talu ffi cadw lle o 50%. Os byddwch yn methu neu’n canslo apwyntiad gyda’r glanweithydd ar fyr rybudd (llai nag un diwrnod gwaith llawn), byddwch yn colli’r taliad hwn a bydd angen talu ffi newydd cyn gallu trefnu apwyntiad newydd.
Ni fydd cleifion ar gynllun sy’n methu un apwyntiad gyda’r glanweithydd yn gorfod talu ffi; bydd unrhyw apwyntiadau dilynol sy’n cael eu methu yn arwain at orfod talu hanner ffi’r glanweithydd.
Apwyntiadau gyda’r deintydd
Os bydd claf yn methu apwyntiad gyda’r deintydd ar ôl rhybudd, codir tâl ar y claf a fydd yn gymesur â hyd yr apwyntiad ac unrhyw ffioedd labordy sydd wedi codi. Rydyn ni’n cadw’r hawl i ofyn am flaendal ar gyfer apwyntiadau gyda’r deintydd, a fydd yn cael ei golli os byddwch yn methu’r apwyntiad fel yr amlinellir uchod. Os caiff mwy na dau apwyntiad eu methu, efallai na fyddwn yn cynnig apwyntiadau yn y dyfodol.
Ai gwynnu dannedd yw'r dewis cywir i fi?
Mae gwynnu dannedd yn gallu bod yn ateb gwych i wella eich gwên. Byddwn bob amser yn gwneud yn siŵr bod eich dannedd yn addas, oherwydd efallai na fyddwn yn ei argymell os oes gennych chi sensitifrwydd uchel. Bydd eich deintydd yn gallu trafod eich dewisiadau gyda chi.
Sut mae'r broses gwynnu dannedd yn gweithio?
Bydd eich deintydd yn gwneud mowldin o’ch dannedd a fydd yn cael ei anfon i ffwrdd i greu eich gorchudd dannedd. Byddwn yn rhoi gel gwynnu i chi a fydd yn cael ei roi rhwng eich dannedd a’r gorchudd. Pan fydd y gel yn cael ei roi ar y dannedd, mae’n torri moleciwlau staen i lawr, sy’n gwneud i ddannedd golli eu lliw.
Pam byddai angen triniaeth sianel y gwreiddyn arna i?
Mae angen triniaeth sianel y gwreiddyn pan fydd sganiau pelydr-x yn dangos bod y bywyn wedi cael ei ddifrodi gan haint bacterol. Nid oes modd trin yr heintiau hyn gyda gwrthfiotigau. Mae modd defnyddio triniaeth sianel y gwreiddyn fel ffordd o osgoi tynnu dannedd.
