Deintyddfa ataliol
Yma ym mhractis Deintyddfa Cybi, rydyn ni’n canolbwyntio ar helpu i gadw’ch ceg yn iach.
Atal problemau cyn iddyn nhw godi
Mae ymweld â’r deintydd yn rheolaidd yn gallu helpu i leihau’r angen am driniaethau yn y dyfodol.
Rydyn ni wedi hyfforddi aelodau o’r tîm sy’n canolbwyntio ar roi arweiniad ar hylendid y geg, gan amrywio o ofal i oedolion, plant a babanod.
Mae’r aelodau hyn o’r staff yn gallu rhoi cyngor ac awgrymiadau i chi, er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cadw’ch ceg yn iach ac yn cael y gofal gorau.


Eich apwyntiadau rheolaidd
Rydyn ni’n asesu iechyd eich ceg ac yn edrych am unrhyw ddirywiad neu welliant ers eich ymweliad diwethaf. Mae pob apwyntiad rheolaidd yn cynnwys:
- Edrych am bydredd dannedd
- Gwneud yn siŵr nad oes gennych chi glefyd y deintgig
- Gwneud yn siŵr nad oes gennych chi ganser y geg
- Pelydr-X deintyddol pan fo angen
- Cyngor ar roi’r gorau i ysmygu os oes angen
- Cynllunio triniaethau
