Yn gwneud i chi wenu
Y practis deintyddol hynaf yng Nghaergybi, lle mae ein tîm arbenigol yn helpu pobl Môn a Gwynedd i gadw cegau iach a gwenau mwy llachar.

Oriau agor
Llun-Gwener: 9am – 5pm
Mae ein deintyddion yn gallu helpu gydag amrywiaeth o wasanaethau deintyddol
Orthodonteg C-fast
Fe’i defnyddir i drwsio aliniad y 6 dant blaen ar eich gên uchaf ac isaf
Boutique Whitening
Y profiad gwynnu dannedd proffesiynol mwyaf effeithiol a chyfforddus sydd ar gael.
EMS Airflow ®
Chwistrelliad mân o ddŵr cynnes a phowdr i lanhau wyneb y dant uwchben ac o dan linell y deintgig yn ofalus iawn.
Endodonteg Endomôn
Achub gwenau gyda thriniaethau sianel y gwreiddyn. Rhoddir triniaeth sianel y gwreiddyn pan fydd dant wedi pydru neu wedi ei heintio y tu hwnt i’w allu i atgyweirio ei hun.
EMS Airflow ® gyda gwynnu ar unwaith
Mae hyn yn gwella disgleirdeb dannedd yn sylweddol, gan roi ceg befriog ac iach i chi.


Dim ond un pwrpas sydd gan ein tîm: gwneud i chi wenu
Mae gennym ni dîm ymroddgar o ddeintyddion, glanweithwyr, therapyddion a nyrsys. Mae ein set sgiliau amrywiol yn sicrhau eich bod yn cael y driniaeth orau bosib beth bynnag fo’ch gofynion.