Archwilio'r practis

Practis deintyddol sydd wedi hen ennill ei blwyf yng nghanol Caergybi.

Croeso i'r practis deintyddol hynaf yng Nghaergybi

Mae’r practis yn un o gonglfeini’r dref ers yr 1950au. Ers hynny, dim ond ambell waith mae wedi newid dwylo, ac roedd y perchennog ar hyn o bryd, Mr Gruffydd Iolo Jones, wedi dod i hyfforddi a gweithio o dan y perchennog blaenorol.

Nod y perchnogion presennol yw cadw at egwyddorion y gorffennol bob tro, sef cynnig y lefel orau o ofal deintyddol i bobl Caergybi, Môn a Gwynedd.

Gan ganolbwyntio ar y nod hon, rydyn ni wedi mynd ati i ddatblygu set sgiliau’r tîm gan ychwanegu deintyddion, glanweithwyr, therapyddion a nyrsys at ein tîm heddiw, gan wneud yn siŵr bod ein cleifion yn cael y driniaeth orau bosib ar gyfer eu gofynion.

Ein nodau yn y practis yw:

  • Hybu iechyd y geg i bob claf
  • Darparu gofal deintyddol o ansawdd uchel, gan gynnwys archwiliadau a thriniaethau pan fo angen
  • Cynnwys ein cleifion yn llawn mewn penderfyniadau am eu gofal, a’u hannog i gyfrannu’n llawn
  • Cynnwys gweithwyr proffesiynol eraill yng ngofal ein cleifion pan fydd hynny er budd y claf, ee atgyfeirio ar gyfer gofal a chyngor arbenigol
  • Gwneud yn siŵr bod holl aelodau ein tîm yn meddu ar y sgiliau a’r hyfforddiant iawn i gyflawni eu dyletswyddau’n gymwys, a’u diweddaru’n rheolaidd
  • Sicrhau ymwybyddiaeth o’r canllawiau cenedlaethol cyfredol sy’n effeithio ar y ffordd rydyn ni’n gofalu am ein cleifion

Dyma beth sydd gan rai o'n cleifion bodlon ei ddweud